#

 

 

 

 


Cyllid ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig i ddynion

Rhif y ddeiseb: P-05-798

Teitl y ddeiseb: Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Testun y ddeiseb: Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u hariannu yn annibynnol ar Gymorth i Fenywod Cymru a'r holl fudiadau cysylltiedig.

Y diffiniad traws-lywodraethol o drais a cham-drin yn y cartref yw:  "Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth sy'n rheoli, yn gorfodi, yn bygwth, rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb."

Gall Cam-drin yn y Cartref effeithio ar unrhyw un.  Mae mwy o ddioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn chwilio am help, cyngor, cymorth a  diogelwch nag erioed o'r blaen.  Mae'n bwysig bod dioddefwyr gwrywaidd yn haeddu cymorth a chyllid annibynnol gan grwpiau penodol o ran rhywedd fel Cymorth i Fenywod Cymru a grwpiau cysylltiedig.

Mae dioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn haeddu cymorth/help sy'n benodol i'w hanghenion, tra'n parhau i gynnal eu hurddas, a rhoi diogelwch iddynt hwy a'u plant sy'n gyfartal ac yn debyg i'r hyn y mae menywod yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Cefndir

Diffiniad

Diffiniad traws-lywodraethol Llywodraeth y DU o drais a cham-drin domestig (fel sydd wedi'i nodi yn y ddeiseb) yw "unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gam-drin sy'n rheoli, gorfodi, neu'n bygwth rhwng y rhai sy'n 16 mlwydd oed neu drosodd sy'n bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu'n aelodau teulu waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb.  Gall y cam-drin ymgorffori'r mathau canlynol ond nid yw'n gyfyngedig iddynt: seicolegol; corfforol; rhywiol; ariannol; emosiynol."

Mae'r diffiniadau o gam-drin domestig yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015) yn debyg:

ystyr “cam-drin” (“abuse”) yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;

ystyr “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) yw cam-drin a ddaw o du person sy’n gysylltiedig neu wedi bod yn gysylltiedig â’r dioddefwr;

Mae person yn 'gysylltiedig â pherson arall' os ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil â hwy, os ydynt yn byw gyda'i gilydd mewn perthynas, os ydynt yn berthnasau i'w gilydd, neu os ydynt mewn perthynas bersonol agos â'i gilydd.

Mae'r Ddeddf Gymreig a'r Strategaeth yn diffinio trais rhywiol fel “cam-fanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol neu fygythiadau o drais o natur rywiol”

Mae'r holl ddiffiniadau hyn yn berthnasol i fenywod a dynion.

Yn y Strategaeth Genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn fater neilltuol, gan ddweud ei fod "yn groes i hawliau dynol, yn achosi ac yn deillio o anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion, ei fod yn digwydd i fenywod am eu bod nhw’n fenywod, a bod menywod yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan bob math o drais".

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn seiliedig ar gyfraith ac arfer rhyngwladol mewn perthynas â hawliau dynol, a hynny o dan: Confensiwn Cyngor Ewrop ar atal a brwydro trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig(Confensiwn Istanbul), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Trais yn erbyn Menywod (CEDAW), ac yn fwyaf diweddar, Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig 2030.

Ystadegau

Nid yw'r ystadegau sydd ar gael yn fesur cywir o raddfa'r sefyllfa o ran cam-drin domestig. Ceir dealltwriaeth eang fod hon yn sefyllfa gudd nad yw'n cael ei hadrodd yn llawn.

Yn yr Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2015 (tabl 4.28 yn yr atodiad), amcangyfrifir bod 88% o ddioddefwyr benywaidd wedi dweud wrth rywun eu bod yn cael eu cam-drin (naill ai rywun yr oeddent yn ei h/adnabod yn bersonol, rhywun mewn rôl swyddogol neu weithiwr/sefydliad cymorth). Fodd bynnag, amcangyfrifir mai dim ond 61% o ddioddefwyr gwrywaidd a oedd wedi dweud wrth rywun.[1]

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yng Nghymru a Lloegr:

§    Amcangyfrifir bod 1.9 miliwn o oedolion rhwng 16 a 59 oed wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2017 (1.2 miliwn o fenywod, 713,000 o ddynion);

§    Roedd 26 y cant o fenywod a 14 y cant o ddynion wedi profi cam-drin domestig rhywbryd ers iddynt fod yn 16 oed;

§    Yn ardaloedd heddlu Cymru, rhwng 2013-14 a 2015-16, cafwyd 21 o ddynladdiadau yn y cartref – 16 ohonynt yn fenywod a phump ohonynt yn ddynion;

§    Yng Nghymru a Lloegr,  lladdwyd y mwyafrif o ddioddefwyr gwrywaidd mewn achosion o ddynladdiad yn y cartref gan wryw arall (66 y cant), a chafodd cyfran uwch o ddioddefwyr gwrywaidd eu lladd gan aelod o'r teulu na'r gyfran o ddioddefwyr benywaidd (47 y cant o'i gymharu â 23 y cant);

Yn ôl sefydliad Rape Crisis,  mae oddeutu 85,000 o fenywod a 12,000 o ddynion yn cael eu treisio yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.

Cefnogaeth mewn llochesi

Nododd Cymorth i Fenywod Cymru, yn ei adroddiad State of the Sector Report 2017, y pwyntiau a ganlyn mewn perthynas â'r sefyllfa yng Nghymru yn 2016-17:

§    Cafodd 1,596 o fenywod, 1,221 o blant a phobl ifanc a 31 o ddynion gymorth mewn llochesi;

§    Cafodd 796 o fenywod a 51 o ddynion eu troi i ffwrdd pan wnaethant geisio cael cymorth mewn llochesi,  a chafodd 213 o fenywod a 36 o ddynion eu troi i ffwrdd oherwydd bod llochesi'n llawn; ac

§    Roedd gan 16 y cant o ddynion a 10 o fenywod a gafodd wasanaethau mewn llochesi anabledd corfforol neu feddyliol.

Mae cronfa ddata sy'n cynnwys manylion ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr gwrywaidd o gam-drin domestig yng Nghymru ar gael yma.

 

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Cyllid

Mae dyraniadau cyllid uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod  (i awdurdodau lleol a'r trydydd sector) fel a ganlyn:

§    2017-18: £3.9 miliwn

§    2016-17: £3.9 miliwn

§    2015-16: £3.6 miliwn

Nid yw'r Llywodraeth yn dadgyfuno cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn ar sail rhyw gan fod nifer ohonynt ar gael i fenywod a dynion. Er enghraifft, mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton yn rheoli lloches â phedair ystafell wely i fenywod a phlant, a lloches â dwy ystafell wely i ddynion. Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd yn rhoi cyngor i fenywod a dynion.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid uniongyrchol i'r Prosiect Dyn (sy'n cael ei gynnal gan Cymru Ddiogelach), sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr gwrywaidd yn benodol. Yng Nghaerdydd, mae'r Prosiect yn ariannu gwasanaeth ymgynghori annibynnol i ddynion ar drais domestig, yn ogystal â llinell gymorth Cymru gyfan i ddynion. Mae'r cyllid uniongyrchol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Prosiect Dyn fel a ganlyn: 2017-18: £65,000, 2016-17: £65,000 a  2015-16: £80,000.

Deddfwriaeth 

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ceisio

§    gwella ymateb y sector cyhoeddus i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

§    sicrhau bod gan awdurdodau cyhoeddus ffocws strategol ar y mater, a

§    sicrhau bod gwasanaethau ataliol, amddiffynnol a chefnogol yn cael eu darparu mewn ffordd gyson.

Mae pryderon wedi cael eu codi'n gyson gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad ynghylch cyflymder y broses o weithredu'r Ddeddf.

Polisi

Cafodd y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2016-21 ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2016. Mae'n nodi:

"Er ei bod yn bwysig bod y Strategaeth hon yn cydnabod ac yn cyfleu profiad anghymesur menywod a merched, nid yw hyn yn dirymu trais a cham-drin yn erbyn dynion a bechgyn neu drais neu gam-drin gan fenywod."

Nid oes unrhyw amcanion penodol ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd o gam-drin domestig nac ar gyfer gwasanaethau i ddynion.

 

Camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Codwyd y mater o ddynion sy'n profi camdriniaeth ddomestig yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Rhagfyr 2017. Dywedodd Mark Isherwood AC:

Wrth bwysleisio yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan drais, mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton hefyd yn darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd maen nhw'n dweud bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar y ddau ryw. Pan ymwelais â nhw yn ddiweddar, dywedwyd wrthyf fod pum person wedi eu cyfeirio at eu lloches dynion ar y diwrnod cyntaf er mai dim ond dau le oedd ar gael, ac y bu'n llawn byth ers hynny ac maen nhw ar hyn o bryd yn cadw rhestrau aros.

Yn ystod yr un ddadl, croesawodd Neil McEvoy AC yr eglurhad cyfreithiol a gafwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ynghylch 'sgrinio'r' dynion sy'n galw llinellau cymorth cam-drin domestig er mwyn penderfynu a ydynt yn droseddwyr, ond nid y menywod sy'n galw llinellau cymorth. Safbwynt y Comisiwn yw y gallai sgrinio un rhyw ond nid y llall fod yn gyfystyr â gwahaniaethu yn erbyn dynion.

Dywedodd y dystiolaeth a gafwyd gan Both Parents Matter i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015:

A gender specific approach needs to be introduced that allows existing services with a strong track record and ideological commitment to support for women to concentrate on the group of survivors that they are best equipped to support. This will allow new services that will support male victims to emerge.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1]Ni ofynnir cwestiynau bob blwyddyn yn yr arolwg am natur unrhyw gam-driniaeth gan bartner.